Asesiad Risg

Risk Assessment

Cyn i chi ddechrau unrhyw dasg ymarferol mae’n bwysig eich bod yn asesu’r amgylchedd a’r peiriannau y byddwch yn eu defnyddio. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhagofalon Iechyd a Diogelwch i gyd yn cael eu hystyried. Bydd yn rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r peryglon a all achosi damweiniau difrifol a ffyrdd o’u hatal. Er mwyn deall sut i leihau neu atal damweiniau, mae angen ichi ddeall rôl Asesiad Risg.

  • Risg: tebygolrwydd y bydd rhywun yn cael ei anafu
  • Perygl: rhywbeth a all achosi niwed

Disgrifiad

Mae gan asesiad risg ran bwysig i’w chwarae mewn gwaith cynhyrchu masnachol ac mewn ysgol. Drwy ddilyn y 5 cam gallwch ddileu’r posibilrwydd y bydd rhywun yn cael ei anafu.

Y pum cam sy’n rhan o Asesiad Risg yw:

  1. Gweld perygl / peryglon
  2. Penderfynu pwy sy’n wynebu risg a sut
  3. Gwerthuso’r risgiau a phenderfynu ynglŷn â rhagofalon
  4. Cofnodi’ch canfyddiadau
  5. Adolygu’ch asesiad a’i ddiweddaru os oes angen

Cymerwch y gweithdy yn eich ysgol er enghraifft, lle mae llawer o blant yn cymryd rhan mewn gwaith ymarferol. Rhaid i’r athro neu’r athrawes sicrhau nad oes unrhyw wrthrychau o gwmpas a allai achosi niwed, megis feisiau agored, bagiau ger meinciau gweithio, llawr gwlyb, ac ati. Bydd yr athro neu’r athrawes hefyd yn hysbysu’r disgyblion ynglŷn â materion Iechyd a Diogelwch.

Mae’r un peth yn wir am amgylchedd masnachol lle bydd rhywun yn gyfrifol am ofalu bod y peiriannau’n ddiogel i’w defnyddio. Er mwyn atal damweiniau bydd yn rhaid i gwmni:

  • Gynnal a chadw'r peiriannau yn rheolaidd
  • Hyfforddi gweithwyr sut i ddefnyddio peiriannau newydd
  • Ystyried cynllun, mannau cerdded a goleuadau yn y ffatri
  • Darparu arwyddion Iechyd a Diogelwch clir

Drwy ddilyn y canllawiau, bydd y cwmni’n lleihau’r risg o beryglon ac yn sicrhau cynhyrchiant di-dor. Bydd gwneuthurwyr yn gwneud dau asesiad risg gwahanol wrth wneud eu cynnyrch:

  1. Asesiad risg yn seiliedig ar y broses o wneud eu cynnyrch
  2. Asesiad risg yn seiliedig ar ddiogelwch cwsmeriaid (gweler: Nod Diogelwch a Sicrhau Ansawdd)

Before you start any practical task it’s important that you assess the environment and the machines you will use. This will ensure that all Health and Safety precautions are consisered. You will have to be aware of the hazards that can cause serious accidents and ways of preventing them. To understand how to minimise or prevent accidents you need to understand the role of Risk Assessment.

  • Risk: probability of someone getting hurt
  • Hazard: something that can cause harm

Description

Risk assessment plays an important role in a commercial production and in School. By following the 5 steps you can eliminate the potential of someone getting hurt.

The five steps in Risk Assessment are:

  1. Identify hazard/s
  2. Decide on who is at risk and how
  3. Evaluate the risks and decide on precautions
  4. Record your findings
  5. Review your assessment and update if necessary

Take your school workshop for an example, many children take part in practical work. The teacher must make sure there are no obstacles in the way that could cause harm such as open vices, bags next to workbenches, wet floor etc. The teacher will also make pupils aware of Health and Safety issues.

The same is true in a commercial environment where there will be someone in charge of making sure that the machines are safe to use. To prevent accidents a company will:

  • Maintain the machines regularly
  • Train workers on new machines
  • Consider the factory's layout, walkways and lighting
  • Provide clear Health and Safety signs

By following the guidelines, the company will minimise the risk of hazards and ensure continuous productivity. Manufacturers will undertake two different risk assessments in the production of their products:

  1. Risk assessment on the production process of their products
  2. Risk assessment of customer safety (see: Safety Mark and Quality Assurance)

Adnoddau Resources