Rheoli Ansawdd

Quality Control

Cyflwyniad

Nod unrhyw gwmni gweithgynhyrchu yw gwneud a dosbarthu ei gynnyrch mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid. Cost yw’r ffactor mwyaf dylanwadol pan fydd cwsmer yn dewis cynnyrch, ond mae ansawdd y dyluniad a pherfformiad yn ffactorau pwysig hefyd.

Mae Rheoli Ansawdd a Sicrhau Ansawdd yn chwarae rhan bwysig, o’r camau dylunio cynnar i’r broses bacio.

Rheoli Ansawdd

System a weithredir gan gwmni gweithgynhyrchu er mwyn sicrhau bod ei gynnyrch yn cyrraedd safon uchel yw Rheoli Ansawdd. Cynhelir cyfres o archwiliadau yn ystod pob cam o’r broses weithgynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cynnyrch o’r safon uchaf. Pwrpas yr archwiliadau yw canfod a yw’r cynnyrch yn bodloni’r fanyleb ddylunio a gweithgynhyrchu ac, yn bennaf oll, yn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid.

Bydd swyddog rheoli ansawdd yn cadw llygad ar y llinell gynhyrchu ac yn pwyso a mesur a yw’r cynnyrch yn bodloni’r fanyleb ddylunio ar wahanol adegau yn ystod y broses weithgynhyrchu. Os na fydd y cynnyrch yn bodloni’r gofynion neilltuol hyn, bydd naill ai’n cael ei ailgylchu neu’n cael ei waredu.

Rhaid i gynnyrch o ansawdd da fod:

  • Yn gweithio’n iawn
  • Yn bodloni’r meini prawf a bennwyd yn y fanyleb ddylunio a gweithgynhyrchu
  • Yn bodloni disgwyliadau’r cwsmer
  • Heb unrhyw ddiffyg

Pan fydd y cynnyrch wedi bodloni pob un o’r meini prawf ar gyfer gweithgynhyrchu a chynhyrchu, bydd yn cael ei brofi yn yr amgylchedd y bwriadwyd ef ar ei gyfer. Os bydd y swyddog rheoli ansawdd yn fodlon â’i berfformiad, bydd yn barod wedyn ar gyfer profion y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI).

Sicrhau Ansawdd

Mae Sicrhau Ansawdd yn sicrhau bod y cynnyrch yn ‘addas i’r diben’. Bydd gan gwmni systemau er mwyn sicrhau bod deunydd crai, cyfarpar gweithgynhyrchu a hyfforddiant staff o’r ansawdd gorau. Drwy ddilyn y systemau, hyn cynhyrchir cynnyrch o ansawdd da, gan gadw hygrededd gweithgynhyrchwyr a hyder cwsmeriaid. Os yw’r cynnyrch yn bodloni’r safon ansawdd uchaf, dyfernir safon ISO 9000 iddo (Safon Ansawdd Ryngwladol).

Sefydliad Safonau Prydeinig

Cwmni annibynnol sy’n pennu rheolau a chanllawiau clir y dylai cwmnïau eu dilyn wrth ddylunio a gwneud eu cynnyrch yw BSI. Gall cwmnïau anfon eu cynnyrch i BSI i gael ei brofi. Os bydd popeth yn iawn dyfernir Nod Barcud ISO 9000 i’r cynnyrch.

  • Rheoli Ansawdd yw cyfres o archwiliadau ar y llinell gynhyrchu er mwyn canfod ansawdd ac edrych a oes unrhyw ddiffygion.
  • Bydd y Fanyleb Ddylunio yn rhestru gofynion manwl y mae’n rhaid i’r cynnyrch eu bodloni.
  • Mae Rheoli Ansawdd yn helpu i Sicrhau Ansawdd.
  • Mae’r Rheolwr Rheoli Ansawdd yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb a chysondeb drwy gydol y broses weithgynhyrchu.
  • Dyfernir ISO 9000 i gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n cynhyrchu cynnyrch o ansawdd da.
  • Bydd BSI yn profi cynnyrch cyn iddo gael ei ddosbarthu, a rhoddir Nod Barcud os yw’r cynnyrch yn bodloni’r holl safonau.

Introduction

The aim of any manufacturing company is to make and distribute their products to satisfy customers demand. Cost is the main factor which influences consumer product choice, although quality of design and performance are also important factors.

Quality control and Quality assurance play important roles from the early stages of designing through to packaging.

Quality Control

Quality Control is a system set in place by a manufacturing company to ensure products are made to a high standard. To ensure that products are of the highest quality, a series of inspections are made at every stage of manufacturing to identify whether it meets the design and manufacturing specification, and most important of all to satisfy customers expectations.

A quality control officer will patrol the production line and evaluate whether the product meets the design specification at different manufacturing stages. If the product fails to meet these set requirements, it will either be recycled or disposed of.

A high quality product must:

  • Function properly
  • Meet the criteria set in the design and manufacturing specification
  • Satisfy customer expectations
  • Be free of imperfection

Once the product has passed all manufacturing and production criteria, it is then tested in its intended environment. If the quality control officer is satisfied with its performance it is then ready to undergo British Standards Institution (BSI) tests.

Quality Assurance

Quality Assurance ensures that the product is ‘fit for purpose’. A company will have systems in place to ensure that raw materials, manufacturing equipments and staff training are of the highest quality. By following these systems high quality products are produced, retaining the manufacturers credibility and customer confidence. If the product meets the highest quality standard it is awarded with the ISO 9000 standard (International Standard of Quality).

British Standard Institution

BSI is an independent company which sets out clear rules and guidelines for companies to follow in the designing and manufacturing of their products. Manufactured products can be sent for testing to BSI. If all goes well the product will be awarded the ISO 9000 Kite Mark.

  • Quality control is a series of inspections on the production line to identify quality and note any imperfections.
  • Design Specification will highlight detailed requirements that the product must achieve.
  • Quality Control contributes to Quality Assurance.
  • The Quality Control Manager is responsible for ensuring accuracy and consistency throughout the manufacturing process.
  • ISO 9000 is awarded to manufacturing companies that produce high quality products.
  • BSI will test products prior to distribution, and a Kite Mark is issued if the product meets all standards.

Adnoddau Resources