Rhwymo
Binding
Disgrifiad
Mae rhwymo yn enw arall ar wneud llyfrau. Mae’n broses ble mae deunydd printiedig yn cael ei roi at ei gilydd fel bod y tudalennau yn y drefn gywir ac wedyn yn cael eu gosod tu mewn i glawr.
Prosesau
Yn gyntaf oll, caiff y deunydd printiedig ei blygu mewn ffolder. Pwytho yw’r enw ar y broses styffylu. Mae’r peiriant pwytho yn cymryd y taflenni mawr (signatures) ac yn eu casglu at ei gilydd. Wedyn cânt eu rhoi at ei gilydd gyda styffylau neu lud. Rŵan, mae’r llyfr yn cael ei docio i’w faint. Gall peiriant pwytho mawr brosesu 9000 o lyfrau’r awr. Dyma rai dulliau rhwymo cyffredin:
PWYTHO WEIAR– styffylu, defnyddir ar gyfer llyfrynnau a chylchgronau.
RHWYMO PERFFAITH- torrir y plyg gwter yna mae’r tudalennau a’r clawr yn cael eu gludo at ei gilydd, defnyddir ar gyfer llyfrau clawr papur.
RHWYMIAD SLOT– fel perffaith ond mae glud yn cael ei orfodi i mewn i slotiau yn y plyg gwter. Cryfach na pherffaith ond rhatach na gwnïo.
RHWYMIAD WEDI’I BWYTHO– Casgliad o dudalennau yn cael eu gwnïo at ei gilydd wedyn caiff y clawr ei ludo arnynt. Defnyddir ar gyfer llyfrau clawr papur safonol a rhwymiadau llipa.
RHWYMIAD WEIAR SBIRAL- tudalennau yn cael eu tyllu a weiar sbiral yn cael ei gosod gan ddefnyddio peiriant arbennig. Defnyddir ar gyfer adroddiadau a llyfrau cyfarwyddiadau ar rediad byr.
Manteision
|
Anfanteision
|
Description
Binding is also known as book-making, it is the process where printed material is put together so that the pages are in the correct order and then are fixed together inside a cover.
Processes
First the printed material is folded in a folder. The process of stapling is known as stitching. A stitching machine takes the folded signatures and collates them together. They are then fixed together with staples or glue. The book is now cropped to size. A large stitching machine can process 9000 books per hour. Some common methods of binding are:-
WIRE STITCHING - stapling, used for booklets, brochures and magazines.
PERFECT BINDING- the gutter fold is cut off and then the pages and the cover are glued together, used for paperbacks.
SLOT BINDING- like perfect but glue is forced into slots in the gutter fold. Stronger than perfect but cheaper than sewing.
SEWN BINDING- Gatherings of pages are sewn together then the cover is glued on. Used for good quality paperbacks and limp bindings.
SPIRAL WIRE BINDING- pages are punched with holes and a wire spiral inserted using a special machine. Used for short run reports and manuals
Advantages
|
Disadvantages
|