Priodweddau Deunyddiau

Properties of Materials

Priodweddau Ffisegol

Dwysedd – diffinnir dwysedd deunydd fel màs i bob uned cyfaint; mae hyn yn golygu y bydd deunydd dwys yn drwm fel arfer.

Ymdoddbwynt – y pwynt critigol pan fydd deunydd yn troi’n llifyddol h.y. yn troi o solid i hylif

Dargludedd thermol – priodwedd yw hon sy’n dynodi gallu deunydd i ddargludo gwres. Yn gyffredinol, mae metelau’n dargludo gwres yn dda oherwydd eu dwysedd uchel. Mae hyn i’r gwrthwyneb ar gyfer plastigion ysgafn megis polystyren, h.y. maent yn ynyswyr da.

Dargludedd trydanol – mae hyn yn dynodi gallu deunydd i ddargludo cerrynt trydanol rhwng dau bwynt, e.e. defnyddir copr mewn cylchedau trydanol.


Priodweddau Mecanyddol

cryfder – mae hyn yn cyfeirio at allu’r deunydd i wrthsefyll diriant heb niweidio. Gwneir rhwystrau diogelwch o ddur gan y gallant wrthsefyll gwrthdrawiad heb fethu.

plastigrwydd – mae plastigrwydd yn cyfeirio at allu deunydd i anffurfio wrth ymateb i rymoedd (e.e. darn solid o fetel yn plygu i siâp newydd). Gwneir bymperi ceir o ABS a gallant wrthsefyll ac amsugno ardrawiadau heb gael eu hanffurfio’n barhaol.

hydrinedd – mae hyn yn cyfeirio at allu deunydd i gael ei siapio neu ei anffurfio dan ddiriant cywasgol (e.e. ei allu i ffurfio llen denau drwy ei forthwylio neu ei rolio).

hydwythedd – mae hydwythedd yn cyfeirio at allu deunydd i anffurfio dan ddiriant tynnol e.e. gallu deunydd i gael ei ymestyn yn wifren

caledwch – mae’r term hwn yn cyfeirio at amrywiol briodweddau sy’n galluogi deunydd i wrthsefyll amrywiol newidiadau siâp pan roddir grym arno e.e. gallu deunydd i wrthsefyll crafu neu dorri.

gwydnwch – nodwedd yw hon sy’n nodi gallu deunydd i wrthsefyll amodau heriol e.e. cael ei ddefnyddio yn yr awyr agored am amser hir neu mewn amgylcheddau eithafol


Profi deunyddiau

cryfder tynnol – bydd peiriannau profi tynnol yn asesu sut y bydd rhywbeth yn ymateb pan gaiff ei dynnu ar wahân e.e. mae angen i geblau dur a ddefnyddir wrth adeiladu pontydd fod â chryfder tynnol uchel

caledwch – gellir profi caledwch deunyddiau drwy fesur dyfnder neu arwynebedd pantiadau a adewir gan ‘bantiadwr’ o siâp penodol, pan roddir grym penodol arno am gyfnod penodol. Rhaid i gloch wrthsefyll trawiadau niferus drwy gydol ei hoes.

gwydnwch – dyma fesur o sut y gall deunydd wrthsefyll torri neu hollti. Rhaid i hytrawst dur wrthsefyll llwythi mawr er mwyn cynnal adeilad.

hydwythedd – mae’r prawf hwn yn mesur i ba raddau y gall deunydd wrthsefyll cael ei anffurfio heb rwygo. Gellir tynnu darn o gopr yn wifren denau barhaus heb iddo dorri.

Physical properties

density – the density of a material is defined as its mass per unit volume, this means that a dense material is generally heavy.

melting point – the critical point at which a material becomes fluid i.e. it turns from solid to liquid

thermal conductivity – this is a property which indicates a materials ability to conduct heat. Metals are generally good conductors of heat due to their high density. Light plastics such as polystyrene are the opposite i.e. good insulators.

electrical conductivity – this indicates a material’s ability to conduct an electrical current between two points, e.g. copper is used within electrical circuits.


Mechanical properties

strength – this refers to the material’s ability to withstand an applied stress without damaging. Crash barriers are made of steel as they can withstand the impact of a crash without failing.

plasticity – plasticity refers to a material ability to deform in response to forces (e.g. a solid piece of metal bent into a new shape). Car bumpers are made of ABS and can withstand and absorb impacts without being permanently deformed.

malleability – this refers to a material's ability to be shaped or deformed under compressive stress (e.g. its ability to form a thin sheet by hammering or rolling).

ductility – ductility refers to a material's ability to deform under tensile stress e.g. a material's ability to be stretched into a wire

hardness – this term refers to various properties which give a material a high resistance to various kinds of shape change when force is applied e.g. a materials resistance to scratching or cutting.

durability – this is a feature which states a material’s ability to withstand demanding applications e.g. long term outdoors use or in extreme environments


Testing materials

tensile strength – tensile testing machines will assess how something will react when pulled apart e.g. steel cables used in bridge building need to have high tensile strength

hardness – materials may be tested for hardness by measuring the depth or area of an indentation left by an ‘indenter’ of a specific shape, with a specific force applied for a specific time. A bell has to resist repetitive blows throughout its life.

toughness – this is the measurement of a material's resistance to break or fracture. A steel girder has to withstand large loads to support a building.

ductility – this test determines the extent by which a material can withstand deformation without rupture. A piece of copper can be drawn into a continuous thin wire without breaking.