Cydrannau

Components

Gall cydrannau fod yn ddarnau mewn cynnyrch (y gellir eu disodli os oes angen) neu gallant fod yn gynnyrch at ei gilydd h.y. nifer o gydrannau’n ffitio at ei gilydd i wneud y cynnyrch gorffenedig.

  • gall cydran fod yn ddarn unigryw neu
  • gall cydran fod yn un o filiynau o ddarnau unfath

Dyma rai enghreifftiau:

  • ffitiadau datgysylltiol, sgriwiau, nytiau a bolltau, colfachau, clipiau, sbringiau, gerau, pwlïau a darnau mecanyddol amrywiol eraill.
  • mae cydrannau hefyd yn cyfeirio at ddarnau a ddefnyddir mewn systemau electronig, hydrolig a niwmatig.

Gall cydrannau fod yn ddarnau newydd ar gyfer cynnyrch (gall cydrannau hefyd fod yn nifer o ddarnau unigol a ddefnyddir i wneud cynnyrch).

  • Bydd adeiladwyr yn defnyddio cydrannau megis briciau, blociau, ffenestri, drysau, colfachau, cloeon drws ac ati (sydd i gyd yn gydrannau y gellir eu defnyddio i wneud tai ac adeiladau eraill).
  • Bydd plymwyr yn defnyddio cydrannau safonol ar gyfer pibwaith
  • Bydd dylunwyr tecstilau’n defnyddio cydrannau megis botymau a sipiau.
  • Bydd cynhyrchwyr gemwaith yn defnyddio cydrannau megis gleiniau, cliciedau a ffitiadau ar gyfer clustdlysau.