Potensiomedrau
Potentiometers
Dyfais dair terfynell yw potensiomedr. Mae’r terfynellau allanol wedi’u cysylltu â’i gilydd â thrac hanner cylch wedi’i wneud o garbon neu wifren gwrthiant. Mae’r derfynell ganol wedi’i chysylltu â chyswllt llithro a all gael ei gylchdroi dros y trac.

Mae’r lluniau’n dangos detholiad o botensiomedrau y gellir eu cael yn rhwydd oddi wrth gyflenwyr. Math (c), sydd wedi’i osod ar banel, yw’r math mwyaf cyffredin. Gellir addasu ei osodiad drwy gylchdroi’r werthyd. Caiff y mathau eraill eu gosod ar fyrddau cylched fel arfer a chânt eu haddasu drwy ddefnyddio sgriwdreifer bach. Ym math (b), caiff y llithrydd ei yrru ar hyd trac syth gan edau sgriw. Math rhagosod yw math (a), ac fel gyda math (d) mae’r llithrydd yn cylchdroi oddeutu 270o. Gellir gosod gwrthiant y rhain yn dra chywir.




Defnyddir potensiomedrau ar gyfer dau gymhwysiad mewn cylchedau electronig:
A. Cyflenwad foltedd newidiol Yn yr achos hwn, cysylltir y foltedd cyflenwad sefydlog ar draws terfynellau allanol y potensiomedr. Cymerir y foltedd allbwn newidiol o gyswllt y llithrydd ac un o’r terfynellau pen.

Pan fydd y llithrydd yn safle 1, mae foltedd llawn y cyflenwad ar gael yn yr allbwn. Mae’r foltedd allbwn yn gostwng wrth i’r llithrydd gael ei symud tuag at safle 2. Yn safle 2 bydd y foltedd allbwn yn sero.
B. Fel Gwrthydd Newidiol Gellir gosod potensiomedrau i weithio fel gwrthyddion newidiol i reoli llif cerrynt mewn cylched. Yn yr achos hwn, cysylltir terfynell y llithrydd ag un o’r terfynellau pen trac, a gosod yr uned fel y dangosir isod:

Pan fo’r llithrydd yn safle 1 caiff trac y gwrthydd ei ‘siortio’ a bydd cerrynt y cylched ar ei werth uchaf. Wrth i’r llithrydd gael ei symud tuag at safle 2, caiff mwy a mwy o wrthiant ei gynnwys yn y cylched.
Gellir defnyddio’r gwrthydd newidiol i reoli disgleirdeb bylb.

Bydd y bylb ar ei fwyaf disglair pan fydd y llithrydd yn safle 2.