Adnoddau Digidol

Digital Resources

Ymysg y gwahanol agweddau ar ddylunio, gellir defnyddio adnoddau digidol i ychwanegu diddordeb.

  • Cipluniau
  • Llyfrgelloedd lluniau
  • Clipiau Sain
  • Clipiau Fideo
  • Rhwydi
  • Cynlluniau tudalennau
  • Paletau Lliw


Cipluniau

O fewn Cipluniau, fe gewch luniau parod wedi’u creu i’w defnyddio ar ffurf electronig. Mae Cipluniau yn aml ar gael ar feddalwedd megis Microsoft Word a Publisher... Mae llawer o wefannau hefyd yn gadael i chi lawr lwytho Cipluniau.



Llyfrgelloedd lluniau

Llyfrgelloedd lluniau yw casgliad o luniau gyda thrwydded i gael eu defnyddio. Maent yn arbed amser i chi dynnu’r llun eich hun. Gellir cael y rhain ar wefannau ble gallwch chi chwilio am lun neilltuol.



Clipiau Sain

Mae clipiau sain yn glipiau parod sydd wedi’u recordio ac y gellir eu hychwanegu at hysbysebion teledu, radio neu wefannau...



Clipiau Fideo

Mae clipiau fideo yn glipiau byr, a ddefnyddir fel arfer i gyfleu neges. Mae llawer o glipiau ar gael. Y wefan clipiau fideo fwyaf poblogaidd yw www.youtube.com.



Rhwydi

Siapiau gwastad dau ddimensiwn yw rhwydi. Pan gânt eu sgorio a’u gludo, maent yn creu pecyn tri dimensiwn. Mae llawer o becynnau meddalwedd a gwefannau yn cynnig rhwydi y gallwch chi eu golygu ac ychwanegu graffeg atynt.



Cynlluniau tudalennau

Cynllun tudalen yw cynllun ac arddull sydd wedi’u paratoi yn barod – gellir eu dilyn a’u llenwi.



Paletau Lliwiau

Mae paletau lliw yn gasgliad o liwiau sydd wedi’u haildrefnu i gyfleu gwahanol negeseuon. Mae gwahanol baletau i chi ddewis ohonynt ar lawer o becynnau meddalwedd.



Enghraifft o balet lliw trofannol



Enghraifft o balet lliw trofannol

Adnoddau