Olwyn Lliwiau
Colour Wheel
Lliw
Yr olwyn liwiau yw sut mae lliwiau wedi’u trefnu. Mae 3 dosbarth o liwiau, sef sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.
Lliwiau Sylfaenol
Lliwiau sylfaenol sy’n diffinio’r olwyn, sy’n cynnwys coch, glas a melyn.
Lliwiau Eilaidd
Lliwiau eilaidd yw’r tri lliw a wneir wrth gymysgu’r lliwiau sylfaenol. Fioled, gwyrdd ac oren yw’r rhain.
Lliwiau Trydyddol
Lliwiau trydyddol yw’r rheiny a wneir o liwiau sylfaenol ac eilaidd. Mae’r lliwiau hyn yn cynnwys coch-fioled, glas-fioled, gwyrdd-glas, melyn-gwyrdd, melyn-oren a choch-oren.
Dyma lun o’r olwyn liwiau lawn sy’n cynnwys y lliwiau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.
Ystyron lliwiau
Mae lliwiau yn cael dylanwad mawr ar ddylunio ac mae’n bwysig iawn dewis y cynllun lliw cywir. Gall gwahanol liwiau ennyn gwahanol deimladau.
Tân a Gwaed
COCH: ANGERDD: CARIAD: EGNI: CYFFRO: GWRES: PŴER YMOSODEDD: DICTER: CHWYLDRO: ANFOESOLDEB: PERYGL
Mae’n weledol iawn, sy’n egluro pam bod arwyddion stopio, goleuadau stopio fel arfer wedi’u peintio mewn coch. Mae coch yn dod â gwrthrychau i’r blaen. Yn y maes hysbysebu, defnyddir coch yn aml i greu teimladau o ramant. Defnyddir coch yn aml i ddangos perygl.
Coch Golau yn symboleiddio llawenydd, angerdd, sensitifrwydd, a chariad.
Pinc yn symboleiddio rhamant, cariad, cyfeillgarwch a rhinweddau benywaidd.
Coch tywyll yn cael ei gysylltu â grym ewyllys, llid, dicter, arweinyddiaeth, dewrder, hiraeth.
Mae coch yn lliw dwys iawn, a'r lliw mwyaf pwerus. Mae’n codi pwysau gwaed ac yn cyflymu curiad y galon.
Heulwen
DOETHINEB: OPTIMISTIAETH: LLAWENYDD: DELFRYDIAETH: EGNI CENFIGEN: LLWFRDRA: GOFAL
Mae melyn yn dda iawn am ddenu sylw, felly defnyddiwch felyn i liwio’r elfennau pwysicaf yn eich gwaith dylunio. Mae melyn yn creu teimladau dymunol, llawen. Mae melyn llachar, pur yn denu sylw. Gwelir melyn o flaen lliwiau eraill yn erbyn y lliw du. Defnyddir melyn a du i rybuddio.
Melyn dwl (llwydaidd) yn symboleiddio gofal, pydredd, salwch a chenfigen.
Melyn golau yn cael ei gysylltu â deallusrwydd, ffresni a llawenydd.
Mae melyn yn gynhesol. Mae’n gwneud i chi wenu, yn ysgogi’r meddwl, ac yn creu egni yn y cyhyrau. O’i ddefnyddio gormod, gall melyn aflonyddu ac mae babis yn crio mwy mewn ystafelloedd melyn.
Y Môr a'r Awyr
GWYBODAETH: PWYLL: HEDDWCH: FFYDDLONDEB ISELDER: OERNI: TEIMLAD O FOD AR WAHÂN
Mae glas yn cael ei gysylltu â dyfnder a sefydlogrwydd. Mae glas yn lliw dynol. Mae glas yn anfon gwrthrychau i’r cefn. Mae glas yn hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau sy’n ymwneud â glendid. Mae glas yn awgrymu manylder wrth hyrwyddo cynhyrchion uwch-dechnoleg. Ceisiwch osgoi glas wrth hyrwyddo bwyd. Gyda lliwiau cynnes, mae glas yn effeithiol ar waith dylunio.
Glas golau yn cael ei gysylltu ag iechyd, iachâd, heddwch, a thynerwch.
Glas tywyll yn symboleiddio gwybodaeth, pŵer, didwylledd a difrifoldeb.
Mae glas yn tawelu’r meddwl a’r corff. Mae glas yn arafu metabolaeth ac yn atal awydd bwyd. Mae glas yn cael ei gysylltu â heddwch a llonyddwch.
Planhigion a Natur
FFRWYTHLONDEB: ARIAN: NATUR: IACHÂD: HEDDWCH: TRACHWANT: CENFIGEN: EIDDIGEDD: DIFFYG PROFIAD
Gwyrdd yw’r lliw tawelaf. Mae gwyrdd yn ymwneud â diogelwch. Mae gwyrdd yn aml yn cael ei gysylltu â meddyginiaeth ac iechyd. Mae gwyrdd yn oer ac yn anfon gwrthrychau i’r cefn. Mae gwyrdd yn hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau yn y maes iechyd.
Gwyrdd tywyll yn gysylltiedig ag uchelgais, trachwant a chenfigen
Melynwyrdd yn gallu golygu salwch, llwfrdra, anghytgord a chenfigen.
Aqua yn cael ei gysylltu ag iachâd emosiynol ac amddiffyn.
Gwyrdd olewydd yw’r lliw traddodiadol ar gyfer heddwch.
Mae gwyrdd yn lliw tawel, llonydd a braf. Mae gwyrdd yn golygu EWCH!
Brenhiniaeth a Chyfoeth
MOETHUSRWYDD: CYFOETH: DOETHINEB: CYFRINIAETH: PENDEFIGAETH GORMODEDD: GORLIWIO: CREULONDEB
Mae piws yn cyfuno sefydlogrwydd y lliw glas ac egni'r lliw coch. Mae piws i’w weld yn lliw artiffisial. Mae gan biws rinwedd fenywaidd a rhamantaidd. Gellir defnyddio piws i hyrwyddo cynhyrchion plant. Defnyddir piws wrth ddylunio ar gyfer merched.
Piws golau yn ennyn teimladau o ramant a hiraeth.
Piws tywyll yn ennyn teimladau o dywyllwch a thristwch. Gall achosi rhwystredigaeth.
Mae piws yn golygu cyfoeth.
Yr Hydref a Sitrws
EGNI: IECHYD: GWEITHGARWCH: PENDERFYNOL TWPDRA: CROCHDER: FFASIYNOL
Mae oren yn cyfuno egni’r lliw coch a llawenydd y lliw melyn. Mae oren yn cael ei gysylltu â llawenydd, heulwen a’r trofannau. Mae oren yn rhoi teimlad o wres. Mae oren yn hawdd i’w weld. Gellir defnyddio oren i hyrwyddo bwydydd a theganau. Mae oren yn tynnu sylw at y rhannau pwysicaf mewn dyluniad.
Oren tywyll yn gallu golygu twyll a drwgdybiaeth.
Coch-oren yn golygu awydd, pleser, awdurdod, ymosodedd.
Mae oren yn cynyddu’r cyflenwad ocsigen i’r ymennydd. Mae oren yn codi awydd bwyd.
Nos a Marwolaeth
DU PŴER: AWDURDOD: COETHDER: DIRGELWCH OFN: DRYGIONI: GALAR: CYFRINACHEDD: TRYMDER
Mae du yn gwneud i wrthrychau edrych yn llai. Mae du yn gwneud i liwiau eraill edrych yn fwy disglair.
Golau a Phurdeb
GWYN PERFFEITHRWYDD: RHINWEDD: GLENDID: GWIRIONEDD EIDDILWCH: UNIGEDD
Mae gwyn yn lliw cytbwys. Mae gwyn mor llachar fel y gall achosi cur pen.
Paletau lliw
Mae palet lliwiau yn gyfuniadau o liwiau sy’n gweithio gyda’i gilydd. Mae pedwar prif balet
- Paletau cydweddol
- Paletau monocromatig
- Paletau teiran (Triadic)
- Paletau cyflenwol
Paletau cydweddol
Ar baletau cydweddol, mae lliwiau sydd gyfagos â’i gilydd ar yr olwyn liwiau. Wrth i chi ddilyn yr olwyn liwiau, fe welwch chi fod lliwiau fel piws, pinc a choch wrth ymyl ei gilydd. Oherwydd bod cynlluniau lliw cydweddol wrth ymyl ei gilydd, maent yn debyg ac yn galonnog ac yn ddymunol i’r llygaid.
Paletau Monocromatig
Un lliw yw paletau monocromatig sy’n cael ei ailadrodd drwy newid tint y lliw hwnnw. Gall palet monocromatig fod yn glir ac yn amlwg iawn ond hefyd yn dyner. Oherwydd bod tint ond yn golygu ychwanegu neu dynnu gwyn neu ddu, nid yw’r cyferbyniad o liwiau mor llachar â phaletau eraill. Mae palet monocromatig cyffredin yn ddu a gwyn, a gall yr effaith fod yn drawiadol.
Paletau teiran
Mae paletau teiran yn cynnwys 3 lliw llachar (wedi’u gwahanu’n gyfartal oddi wrth ei gilydd ar yr olwyn liwiau). Gan fod lliwiau teiran oddi wrth ei gilydd, maent yn wahanol iawn ac maent yn gwneud i’w gilydd sefyll allan megis coch, glas a melyn.
Paletau cyflenwol
Ar baletau cyflenwol y ceir y cyferbyniad a’r bywiogrwydd gorau gan eu bod gyferbyn â’i gilydd ar yr olwyn liwiau. Megis glas ac oren, piws a melyn.
Colour
The colour wheel is how colours are arranged. There are 3 colour categories, primary, secondary and Tertiary.
Primary Colours
Primary colours are the defining colours of the wheel including red, blue, and yellow.
Secondary Colours
Secondary colours are the three colours made up from mixing the primary colours. They include violet, green, and orange.
Tertiary colours
Tertiary colours are those made up of primary and secondary colours. These colours include red-violet, blue-violet, blue-green, yellow-green, yellow-orange, and red-orange
This image is of the full colour wheel including the primary, secondary and tertiary colures.
Colour Meanings
Colours have a huge effect on design and selecting the correct colour scheme is very important. Different colours can provoke different emotions.
Fire & Blood
RED: PASSION: LOVE: ENERGY: EXCITEMENT: HEAT: POWER: AGGRESSION: ANGER: REVOLUTION: IMMORALITY: DANGER.
It is very visible, which is why stop signs, stoplights, and fire equipment are usually painted red. Red brings objects to the foreground. In advertising, red is often used to evoke romantic feelings. Red is widely used to indicate danger.
Light red represents joy, passion, sensitivity, and love.
Pink signifies romance, love, and friendship and feminine qualities.
Dark red is associated with willpower, rage, anger, leadership, courage, longing.
Red is a very intense and is the most dominant colour. It raises blood pressure and stimulates the heart rate.
Sunshine
WISDOM: OPTIMISM: JOY: IDEALISM: ENERGY JEALOUSY: COWARDICE: CAUTION
Yellow is very effective for attracting attention, so use it to highlight the most important elements of your design. Yellow to creates pleasant, cheerful feelings. Bright, pure yellow gets attention. Yellow is seen before other colours when placed against black. Yellow and Black are used for warnings. Shades of yellow are visually unappealing because they loose cheerfulness and become dingy.
Dull (dingy) yellow represents caution, decay, sickness, and jealousy.
Light yellow is associated with intellect, freshness, and joy.
Yellow is warming. It makes you cheerful, stimulates mental activity, generates muscle energy. When over used, yellow may have a disturbing effect and babies cry more in yellow rooms.
Sea & Sky
KNOWLEDGE: COOLNESS: PEACE: LOYALTY DEPRESSION: COLDNESS: DETACHMENT
Blue is associated with depth and stability. Blue is a masculine colour. Dark blue is a preferred colour for corporate America. Blue sends objects to the background. Blue promotes products and services related to cleanliness Blue suggests precision when promoting high-tech products. Avoid using blue when promoting food. Blue with warm colours creates high-impact designs.
Light blue is associated with health, healing, tranquility, softness.
Dark blue represents knowledge, power, integrity, and seriousness.
Blue has a calming effect on the mind and body. Blue slows human metabolism and suppresses appetite. Blue is strongly associated with tranquility and calmness.
Plants & Nature
FERTILITY: MONEY: NATURE: HEALING: HARMONY GREED: JELOUSY: ENVY: INEXPERIENCE
Green is the most restful colour. Green has a strong attachment to safety. Green is often associated with medicine and health. Green is cool and sends objects to the background. Green promotes products and services related to health.
Dark green is associated with ambition, greed, and jealousy.
Yellow-green can indicate sickness, cowardice, discord, and jealousy.
Aqua is associated with emotional healing and protection.
Olive green is the traditional color of peace.
Green is a calming, relaxing and a refreshing colour. Green means GO.
Royal & Rich
LUXURY: WEALTH: WISDOM: MYSTICISM: NOBILITY EXCESS: EXAGGERATION: CRUELTY
Purple combines stability of blue and the energy of red. Purple seems to be an artificial colour. Purple has a feminine and romantic quality. Purple can be used for promoting children’s products. Purple is useful for feminine design.
Light purple evokes romantic and nostalgic feelings.
Dark purple evokes gloom and sad feelings. It can cause frustration.
Purple means rich.
Autumn & Citrus
ENERGY: HEALTH: ACTIVITY: DETERMINATION CRASSNESS: LOUDNESS: TRENDINESS
Orange combines energy of red and the happiness of yellow. Orange is associated with joy, sunshine and the tropics. Orange give a sensation of heat. Orange is highly visible. Orange can be used for promoting foods and toys. Orange highlights the most important parts of a design.
Dark orange can mean deceit and distrust.
Red-orange means desire, pleasure, domination, aggression.
Orange increases oxygen supply to the brain. Orange stimulates mental activity. Orange stimulates the appetite.
Night & Death
BLACK POWER: AUTHORITY: ELEGANCE: MYSTERY FEAR: EVIL: MOURNING: SECRECY: HEAVINESS
Black makes objects look smaller. Black makes other colours look brighter
Light & Purity
WHITE: PERFECTION: VIRTUE: CLEANLINESS: TRUTH: FRAGILITY: ISOLATION
White is a perfectly balanced colour. White is so bright it can cause headaches.
Colour Palletes
Colour pallets are combinations of colours that work together. There are four main pallets
- Analogous palettes
- Monochromatic palettes
- Triadic palettes
- Complementary palettes
Analogous palettes
Analogous pallets contain colours that are adjacent next to each other on the colour wheel. If you follow the colour wheel colours such as purple, pink and red are neighbours on the colour wheel such as green, yellow green, and yellow. Because analogous color schemes are next to each other they are similar and are cheery and pleasing to the eye.
Monochromatic Palettes
Monochromatic pallets are one colour that is repeatedly used by changing the tints of that colour. The monochromatic palette can be very clear and obvious but also soothing, because a tint is only adding and subtracting white or black the contrast of colours are not as vibrant as other pallets . A common monochromatic palette is black ad white the effect can be quite dramatic.
Triadic Palettes
Triadic palettes are 3 vivid colours that equidistant (equally spaced apart) on the colour wheel. Because triadic colures are spaced apart they are very different and make each other stand out such as red, blue and yellow
Complementary palettes
Complementary palettes have the most contrast and vibrancy as they are opposite each other on the colour wheel. Such as blue and orange, purple and yellow.