Argaenu
Veneering
Argaenau yw dalenni tenau o bren a roddir ar arwyneb pren o ansawdd isel (e.e. bwrdd sglodion, MDF) i wneud iddo edrych fel petai o ansawdd uchel. Defnyddir argaenau tewach hefyd i greu byrddau wedi’u gweithgynhyrchu megis pren haenog a blocfwrdd.
Defnyddir argaenau gyda’r rhain:
- Cypyrddau cegin a gynhyrchir gyda MDF a bwrdd sglodion
- Drysau a dodrefn
- Gorffeniad addurnol ar arwyneb gan ddefnyddio cyfuniad o wahanol argaenau
Cyngor: Rhaid i’r arwyneb y rhoddir yr argaen arno fod yn wastad ac yn llyfn, oherwydd ychydig o lyfnu neu orffennu sy’n bosibl oherwydd yr argaen tenau.
Manteision | Anfanteision |
---|---|
Rhoi arwyneb addurnol i fyrddau wedi’u gweithgynhyrchu | Bydd dalenni argaen yn difrodi’n hawdd os na chânt eu cadw’n gywir |
Gall motifau addurnol wella ymddangosiad arwynebau pren | Ychydig iawn o waith siapio a gorffen sy’n bosib unwaith y rhoddir yr argaen ar yr arwyneb |
Veneers are thin sheets of wood applied to the surface of a low quality wood (e.g. chipboard, MDF) to give it a high quality appearance. Thicker veneers are also used for creating manufactured boards such as plywood and blockboard.
Veneers are used within the following:
- Kitchen units produced in MDF and chipboard
- Doors and furniture
- Decorative surface finish using a combination of different veneers.
Tip: The surface onto which the veneer is applied to must be flat and smooth, as very little sanding or finishing is possible due to the thin veneer.
Advantages | Disadvantages |
---|---|
Gives manufactured boards a decorative surface | Veneer sheets will damage easily if not kept properly |
Decorative motifs can enhance the appearance of wood surfaces | Very little shaping and finishing is possible once the veneer is applied |