Lliw Gamwt, dosbarthiadau a phriodweddau
Colour Gamut, Categories & properties
Lliw
Daw lliw o sbectrwm golau, oherwydd ei fod yn cael ei adlewyrchu neu ei amsugno.
Gamwt
Gamwt yw’r lliwiau mae’r llygaid dynol yn eu codi (yr holl liwiau y gallwch chi eu gweld).
Prosesau
Mae rhai dyfeisiau methu defnyddio’r holl liwiau a welwn. Mae’r rhan fwyaf o sgriniau cyfrifiadurol yn defnyddio RGB (coch, gwyrdd a glas) felly dim ond ychydig o’r gamwt a welwn maent yn eu prosesu. Mae’r rhan fwyaf o argraffwyr yn defnyddio CMYK (gwyrddlas, magenta, melyn a du).
Lliwiau Oer a Phoeth
Gellir dosbarthu lliwiau yn rhai Poeth ac Oer. Mae coch neu felyn mewn lliwiau poeth, a glas mewn lliwiau oer. Nid yw du a gwyn yn oer nac yn boeth. Dywedir bod lliwiau oer yn atchwelyd [regress] (lliwiau trist) ond mae lliwiau poeth yn lliwiau prosesu (lliwiau hapus, calonogol).
Poeth | Oer |
---|---|
Coch | Glas |
Melyn | Gwyrddlas |
Oren | Gwyrdd y môr |
Gwyrddfelyn | Fioled |
Rhuddgoch | Llwyd |
Prosesau
Gellir cymysgu lliwiau i gynhyrchu lliw ychwanegol (additive) a thynnol (subtractive).
Dyma’r ffordd mae lliw yn cael ei gynhyrchu ar gyfer monitor, teledu, taflunydd, sganiwr ac unrhyw beth arall sy’n defnyddio golau tri lliw (RGB - Coch, gwyrdd, glas).
Dyma’r ffordd y caiff lliw ei gynhyrchu pan fydd golau yn adlewyrchu oddi ar y gwrthrych. Dyma pryd fydd arwyneb yn cael ei liwio fel sy’n digwydd yn y broses argraffu neu mewn unrhyw fath o beintio.
Priodweddau Lliwiau
Gall lliwiau amrywio drwy newid y priodweddau canlynol. Dirlawnder, disgleirdeb, tymheredd, arlliw, tint a thôn.