Clicied a Phawl
Ratchet and Pawl
Defnyddir mecanwaith clicied a phawl i ganiatáu mudiant cylchol mewn un cyfeiriad yn unig, neu i rwystro mecanwaith rhag symud. Olwyn â dannedd o amgylch ei hymyl, fel y rhai a welir ar lif, yw clicied. Mae’r dannedd wedi eu siapio’n arbennig er mwyn atal llithriad. Lifer gyda daliad ar ei ben yw’r pawl, sy’n cydio yn hiciau’r olwyn glicied. Bydd sbring fel arfer yn cyfyngu ar symudiad y pawl, a fydd yn atal symudiad afreolus yr olwyn.
Codir y pawl er mwyn galluogi’r glicied i gael ei rhyddhau. Defnyddir sbring fel arfer i gadw’r pawl yn ei le yn erbyn y glicied.
Defnyddir cliciedau a pholion yn aml mewn offer codi er mwyn atal y llwyth rhag cwympo unwaith y bydd wedi ei godi. Gellir defnyddio’r mecanweithiau hyn hefyd er mwyn cynhyrchu symudiad cylchol grisiog wedi ei gatrodi. Mae’r sbring yn atal y glicied rhag llithro. Os caiff y sbring ei dynnu yn ôl yn ddigon pell i ryddhau’r pawl oddi wrth yr olwyn, bydd y llwyth yn cwympo.
Ceir cliciedau a pholion ar winshis, liferi brêc llaw mewn car (llun), setiau soced, riliau pysgota a sgriwdreifers.
A ratchet and pawl mechanism is used to allow rotary motion in one direction only or to stop a mechanism from moving. The ratchet is a wheel with teeth like those of a saw around its edge. The teeth are specially shaped to prevent slippage. The pawl is a lever with a catch on the end, which meshes with the notches of the ratchet wheel. The movement of the pawl will usually be restricted by a spring, which will prevent uncontrolled movement of the wheel.
To allow the ratchet to be releast the pawl is raised. A spring is usually used to keep the pawl in place against the ratchet
Ratchet and pawls are commonly used in lifting equipment to prevent the load falling once it has been lifted. These mechanisms can also be used to produce a regimented stepped rotational movement. Slippage of the ratchet is prevented by the spring. If the spring is pulled back sufficiently to disengage the pawl from the wheel, the load will fall.
Ratchet and pawls are found on winches, car hand-brake levers (photo), socket sets, fishing reels and screwdrivers.