System cranc cloch

Bell Crank Systems

Mae cysyllteddau yn bwysig iawn mewn systemau rheoli mecanyddol gan eu bod yn caniatáu i rymoedd a mudiant gael eu trosglwyddo i ble bynnag y bydd eu hangen. Gallant newid cyfeiriad symudiad, maint grym, neu wneud i bethau symud mewn ffordd arbennig. Maent fel arfer yn gwneud nifer o’r pethau hyn ar yr un pryd. Defnyddir cranciau cloch i newid cyfeiriad mudiant 90 gradd i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Mae hyn yn ddefnyddiol yng nghyd-destun mudiant yn mynd rownd cornel.

Mae’r darlun yn dangos y breciau calipr ar feic. Mae’r mecanwaith wedi ei wneud o ddau granc cloch, gyda’r ddau yn colynnu ar yr un follt. Drwy newid safle’r ffwlcrwm neu gynyddu hyd un ochr y lifer, gellir hefyd newid maint y symudiad neu’r grymoedd a gynhyrchir gan y cysylltedd. Yn wir, ni allwch newid un heb newid y llall.

Ar feiciau mynydd, ceir breciau sydd â liferi llawer hirach ar ochr ymdrech y ffwlcrwm na’r rhai a welir ar feic arferol. Mae hyn yn caniatáu’r gyrrwr i weithredu grymoedd mwy ar yr olwyn wrth frecio.

Un defnydd cyffredin o “granc cloch” yw’r hyn a welir mewn injan torrwr glaswellt petrol. Mae cysylltedd y throtl “A”, pan gaiff ei dynnu neu ei wthio, yn achosi cranc cloch “B” i droi cyfeiriad y symudiad 90 gradd i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Yna mae hyn yn tynnu neu’n gwthio’r cysylltedd “C” sy’n gweithredu’r gosodiadau cymysgu ar y carbwradur.

Gwrthdroi symudiad systemau cyswllt

Gall cysylltiadau cyswllt gael eu defnyddio i newid cyfeiriad. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer newid gwthio i mewn i dynnu, neu i'r gwrthwyneb.

Linkages are very important in mechanical control systems because they allow forces and motion to be transmitted where they are needed. They can change the direction of a movement, the size of a force, or make things move in a particular way. They usually do several of these things at once. Bell cranks are used to change the direction of motion through 90 degrees. This is useful for taking motion round a corner.

The picture shows the calliper brakes on a bicycle. The mechanism is made up of two bell cranks, both pivoting on the same bolt. By changing the position of the fulcrum or lengthening one side of the lever, the amount of movement or the size of the forces produced by the linkage can also be changed. In fact you cannot change one without changing the other.

The brakes used on mountain bikes have much longer levers on the effort side of the fulcrum than those on a standard bike. This allows larger forces to be applied to the wheel when braking .

One common use of a “Bell crank” is on a petrol mower engine. The throttle linkage “A”, when pulled or pushed, causes the bell crank “B” to turn the direction of movement through 90 degrees. This then pulls or pushes the linkage “C” which operates the mixture settings on the carburettor.

Reverse Motion linkage systems.

Reverse motion linkages can be used to change the direction of motion. This is useful for changing a push into a pull, or visa versa.