Cylchdroadau pob munud - CPM
Revolutions per minute - RPM
Mae’r modur hwn wedi ei ddylunio i droi ar 2000 CPM – Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae’n golygu bod y siafft yn troi 2000 o weithiau am bob munud mae’n rhedeg.
Hynny yw, mae’n nodi’r nifer o weithiau mae rhywbeth yn cylchdroi pob munud. Fe’i defnyddir i fesur pa mor gyflym mae mecanwaith yn troi.
Felly os yw modur yn troi ar 100 cpm, mae’n golygu ei fod yn gwneud 100 troad cyfan am bob munud mae’r peiriant yn rhedeg.
This motor is designed to turn at 2000 RPM - What does this mean?
It means that for every minute it is running the shaft turns 2000 times.
In other words it is how many times something rotates every minute. It is used as a measure of how fast a mechanism is turning.
So if a motor is turning at 100 rpm it means that for every minute the motor is running it makes 100 complete turns.