MF = Llwyth / Ymdrech

Force - Applying the formula MA = Load / Effort

Cofiwch fod Grym yn cael ei fesur mewn “Newtonau” (N)

Caiff LLWYTH ac YMDRECH eu mesur mewn “Newtonau” gan fod y ddau yn rymoedd.

Mae MF yn fyr am “Mantais fecanyddol”

Yn yr enghraifft isod, mae’r “Ferfa” yn enghraifft o lifer o’r ail ddosbarth. Cyfrifir y fantais fecanyddol drwy rannu’r LLWYTH gyda’r YMDRECH a ddefnyddir i godi’r llwyth.

Os yw’r llwyth yn 300 N a’r ymdrech sydd ei angen i’w godi yn 100 N, yna mae’r fantais fecanyddol yn:

300/100 = 3/1 neu 3:1 neu 3

Gallwch gyfrifo’r ymdrech sydd ei angen ar gyfer y llwyth gydag unrhyw lifer penodol os ydych yn gwybod ymhle mae’r LLWYTH o’i gymharu â’r Ffwlcrwm ac ym mhle y gweithredir y grym o’i gymharu â’r Ffwlcrwm.

Yn yr achos hwn, mae pen handlenni’r ferfa 3 gwaith cyn belled oddi wrth y Ffwlcrwm (yr olwyn flaen) ag yw canol pwysau’r tywod sy’n cael ei godi.

Ond mae’n rhaid codi handlenni’r ferfa deirgwaith cyn belled ag y codir y llwyth. Mae’r handlenni yn symud 300 mm, ond dim ond 100 mm mae’r llwyth yn ei godi.

Drwy osod y llwyth ar y “Ferfa sach” hon mor agos â phosib at yr olwyn (Ffwlcrwm), bydd maint yr ymdrech sydd ei angen i godi’r handlenni yn cael ei leihau’n fawr.

Remember force is measured in "Newtons" (N)

LOAD and EFFORT are both measured in “Newtons” as they are both forces

MA is short for "mechanical advantage"

In the example below the “Wheel Barrow” is an example of a second class lever. The mechanical advantage is calculated by dividing the LOAD by the EFFORT used to lift the load.

If the load is 300 N and the effort required to lift it is 100 N then the mechanical advantage is: 300/100 = 3/1 or 3:1 or 3

You can work out the effort required for the load for any given lever if you know where the LOAD is relative to the Fulcrum and where the force is applied relative to the Fulcrum.

In this case the ends of the barrow handles are 3 times the distance from the Fulcrum (The front wheel) than the centre of the weight of sand being lifted.

But the handles of the barrow need to be lifted three times as far as the load is lifted. The handles move by 300 mm, and the load only raises up by 100 mm.

By placing the load on this “Sack barrow” as close to the wheel (Fulcrum) as possible the amount of effort needed to lift the handles is greatly reduced.