Mecanweithiau

Mechanisms

Gwahanol fathau o fudiant

Ceir PEDWAR math o fudiant:

Llinol Dilyn llinell syth
Cylchdro Mynd rownd a rownd
Cilyddol Mynd yn ôl ac ymlaen mewn llinell syth
Osgiliadol Siglo yn ôl ac ymlaen

Gwahanol fathau o fudiant

Mudiant llinol yw mudiant mewn llinell syth i un cyfeiriad.

Mae crafanc dril yn symud â mudiant llinol pan gaiff yr handlen ei throi.

Defnyddir mudiant llinol torrwr papur i dorri ymyl syth ar y papur.

Mae’r pen argraffu ar yr argraffydd chwistrell hwn yn symud mewn cyfeiriad llinol. Mae’r porthwr papur yn symud y papur ymlaen mewn cyfeiriad llinol

Gwahanol fathau o fudiant

Mudiant cylchdro yw mudiant sy’n troi rownd a rownd o amgylch echel.

Mae’r chwrligwgan hwn yn trawsnewid mudiant llinol yn fudiant cylchdro.

Mudiant cylchdro yw’r math mwyaf cyffredin o fudiant. Meddyliwch am olwynion, cogiau, beiciau a chwaraewyr CD/DVD. Ceir mudiant cylchdro ym mhob un o’r rhain.

Ceir rhywfaint o fudiant cylchdro ym mron pob peiriant. Mae hyn yn enwedig yn wir am fecanweithiau a gaiff eu pweru gan foduron trydan.

Enghreifftiau o beiriannau sy’n defnyddio Mudiant Cylchdro

Gwahanol fathau o fudiant

Cilyddol – mudiant sydd mewn llinell syth, ond sy’n symud ymlaen ac yna yn ôl mewn symudiad di-dor, ac yna’n ei ailadrodd eto.

Mae nodwydd peiriant gwnïo yn cilyddu. Mae’n symud i fyny ac i lawr mewn symudiad di-dor.

Diagram sgematig o injan car i ddangos symudiad y pistonau. Maent yn cilyddu yn eu silindrau. (Symud i fyny ac i lawr mewn llinell syth.)

Mae llafn y llif ar yr haclif fecanyddol hon yn symud ymlaen ac yn ôl mewn mudiant cilyddol.

Mae llafn y llif ar herclif yn symud i fyny ac i lawr mewn mudiant cilyddol.

Gwahanol fathau o fudiant

Osgiliad Symudiad sy’n cylchdroi yn ôl ac yna ymlaen mewn symudiad di-dor.

Mae siglen yn osgiliadu.

Mae hyn hefyd yn wir am bendil cloc.

Different types of motion

There are four types of motion:

Linear Going in a straight line.
Rotary Going round and round
Reciprocating Going backwards and forwards in a straight line.
Oscillating Swinging backwards and forwards.

Different types of motion

Linear movement is movement in a straight line in one direction.

The drill chuck moves with a linear movement when the handle is rotated.

The linear movement of a paper trimmer is used to cut a straight edge on the paper.

The printer head on this inkjet printer moves in a linear direction. The paper feed moves the paper forward in a linear direction.

Different types of motion

Rotary is movement that turns round and round about an axis.

This spinning top converts linear motion into rotary motion.

Rotary is the most common kind of movement. Think about wheels, cogs, Bicycles and CD/DVD Players. All these involve rotary movement.

Almost all machines involve some rotary motion. This is particularly true of mechanisms powered by electric motors.

Examples of machines that use Rotary Motion.

Different types of motion

Reciprocate - a movement that is in a straight line, but moves forward and then backwards in a continuous movement, and then repeats again.

A sewing machine needle reciprocates, Moves up and down in a continuous movement.

A schematic diagram of a car engine showing the movement of the pistons. They reciprocate in their cylinders, (Move up and down in a straight line.)

The saw blade on this mechanical hack saw moves forward and backwards in a reciprocating motion.

The saw blade on a jigsaw moves up and down in a reciprocating motion.

Different types of motion

Oscillation A movement that rotates backwards and then forwards in a continuous movement.

A swing Oscillates

So does the pendulum of a clock