System pwli

A simple pulley system

Yn syml iawn, olwyn â rhigol ar ei hymyl yw pwli. Drwy ddefnyddio dau bwli a belt gyrru hyblyg (i gysylltu’r pwlïau â’i gilydd), gellir trosglwyddo mudiant cylchdro a throrym o un siafft i un arall.

Nodweddion systemau trosglwyddo belt a phwli:

Manteision

Prif fanteision systemau trosglwyddo belt a phwli yw: maent yn dawel i’w defnyddio, nid oes angen eu hiro ac maent yn gymharol rad i’w cynhyrchu. Cânt eu defnyddio mewn dyfeisiau yn y cartref am y rhesymau hynny. Dan rai amgylchiadau, gall llithro fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft, os bydd peiriant fel dril piler yn mynd yn sownd, gall y belt gyrru lithro. Gallai hyn atal y defnyddiwr rhag cael ei anafu, ac atal y modur gyrru rhag cael ei ddifrodi.

Manteision

Y brif anfantais yw y gall lithro. Dylent felly ond gael eu defnyddio lle na fydd llithro yn effeithio ar sut mae’r peiriant yn gweithio.

Os defnyddir system pwli mewn sefyllfa lle byddai llithro yn broblem, gellir defnyddio beltiau arbennig er mwyn cael gwared â’r broblem. (Beltiau pwli)

A pulley is simply a wheel with a groove in its rim. Using two pulleys and a flexible drive belt (to link the pulleys together), rotary motion and torque can be transmitted from one shaft to another.

Features of belt and pulley transmission systems:

Advantages

The main advantages of belt and pulley transmission systems are that they are: quiet in operation, require no lubrication, and are relatively cheap to produce. They are used in domestic appliances for these reasons.

In certain circumstances, slip can actually be useful. For example, if a machine like a pillar drill jams, the drive belt can slip. This could protect the user from injury, and protect the drive motor from damage.

Disadvantages

The main disadvantage is that slip can occur. They should only be used therefore where slip will not affect the operation of the machine.

If a pulley system is to be used where slippage would be a problem, special belts can be used to eliminate the problem. (See section on Pulley belts)